Mae plentyn bach yn dal i fod mewn cyflwr difrifol ar ôl gwrthdrawiad ger ysbyty yn Hwlffordd.Fe gludwyd y plentyn mewn ambiwlans awyr i ysbyty yng Nghaerdydd ac mae'r heddlu yn cadarnhau bod y plentyn yn ddifrifol wael.Mae'r gyrrwr a dau berson arall a gafodd eu cludo i'r ysbyty wedi eu rhyddhau.Mae rhieni'r plentyn yn derbyn cymorth gan swyddogion arbenigol ac mae'r heddlu yn parhau i ymchwilio i'r digwyddiad.Mae swyddogion wedi bod ar y safle am rai oriau ac mae'n debygol y bydd timau lleol yn cynnig cefnogaeth dros y dyddiau ac wythnosau nesaf.
原始來源:BBC